#

 

 

 

 


Briff Ymchwil:

1.       Cyflwyniad

Mae’r papur hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau sy’n berthnasol i Gymru o ran gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae’n cynnwys adrannau ar waith y Cynulliad a Llywodraeth Cymru; ar lefel yr UE; ar lefel y DU; yr Alban ac Iwerddon. Mae'n ymdrin â'r cyfnod rhwng 8 Chwefror a 1 Mawrth, er y cyfeirir at ddigwyddiadau diweddarach lle y mae gwybodaeth ar gael ar adeg y drafftio terfynol.

2.       Datblygiadau yng Nghymru

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol

Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yw prif bwyllgor y Cynulliad ar gyfer cydgysylltu gweithgareddau'r Pwyllgorau sy'n gysylltiedig â gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae’r Pwyllgor wedi cynnal ymchwiliad ar y goblygiadau posibl i Gymru wrth adael yr Undeb Ewropeaidd.

Dyma sesiynau mwyaf diweddar ymchwiliad y Pwyllgor:

§    13 Chwefror: Clywodd y Pwyllgor gan y Y Gwir Anrhydeddus David Jones AS, Gweinidog Gwladol yn yr Adran Gadael yr UE.

§    27 Chwefror: Dechrau'r sesiynau tystiolaeth ar gyfer yr Ymchwiliad i bolisi rhanbarthol - beth nesaf i Gymru?

Mae gwybodaeth reolaidd am waith y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol i’w gweld ar flog y Cynulliad: https://blogcynulliad.com/tag/ue/.

Mae blogiau'r Gwasanaeth Ymchwil ei hun yn cael eu cyhoeddi ar Pigion. Y blog Gadael yr Undeb Ewropeaidd diweddaraf yw Gadael yr Undeb Ewropeaidd: Barn o Gymru a San Steffan, sy'n crynhoi dau gyfarfod diwethaf y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol.

Arall

Mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn cynnal ymchwiliad i Ardaloedd Morol Gwarchodedig yng Nghymru, ynghyd ag ymchwiliad i Ddyfodol Polisïau Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig yng Nghymru.

Mae ymgynghoriad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau newydd gau ar Sut beth fydd hawliau dynol yng Nghymru yn dilyn Gadael yr Undeb Ewropeaidd?

Mae 'Goblygiadau Gadael yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer y gweithlu meddygol' wedi'i gynnwys yn benodol yn y cylch gorchwyl ar gyfer ymchwiliad cyfredol y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar recriwtio meddygol. Bydd yr ymchwiliad hwn yn parhau i gasglu tystiolaeth lafar drwy gydol mis Mawrth.

Dadleuon yn y Cyfarfod Llawn

7 Chwefror: Dadl: “Diogelu Dyfodol Cymru”: Symud o'r Undeb Ewropeaidd at berthynas newydd ag Ewrop.

Llywodraeth Cymru

6 Chwefror: Ysgrifennydd y Cabinet yn cyhoeddi cymorth i helpu pysgotwyr Cymru i gael mynediad at filiynau o bunnoedd o arian Ewropeaidd.

9 Chwefror: Mark Drakeford yn cyfarfod â Banc Buddsoddi Ewrop i drafod cyfleoedd buddsoddi mewn seilwaith yng Nghymru.

17 Chwefror: Ken Skates yn ymweld â Chongqing a Shanghai i gryfhau'r cysylltiadau rhwng Cymru a Tsieina.

21 Chwefror: Mae mwy na €1m o arian yr UE yn cael ei fuddsoddi mewn prosiect newydd i gefnogi twf y diwydiant pysgod cregyn yng Nghymru ac Iwerddon.

23 Chwefror: Mae rhaglen i raddedigion i helpu i ddatblygu a chadw gweithwyr proffesiynol y diwydiantac arweinwyr y dyfodol yn sector gwasanaethau ariannol Cymru yn cael ei hymestyn am ddwy flynedd arall yn dilyn hwb ariannol o £1m gan yr UE.

24 Chwefror: Cyllid Y Gwasanaeth Di-Waith wedi'i ymestyn tan 2020.

28 Chwefror: Rhaid i'n perthynas roi hwb i fasnach a chael gwared â rhwystrau- neges Prif Weinidog Cymru cyn ei ymweliad â'r Unol Daleithiau.

Newyddion

10 Chwefror: Papur Polisi Gadael yr Undeb Ewropeaidd NFU Cymru

21 Chwefror: Mae'n rhaid i sefyllfa unigryw Cymru gael ei chydnabod yn nyfodol amaeth-gynllunio (FUW)

21 Chwefror: Ffermwyr yn galw am sicrwydd llafur i helpu i fwydo'r genedl(CLA)

22 Chwefror: NFU yn tynnu sylw at ei flaenoriaethau ar gyfer Cymru o ran Gadael yr Undeb Ewropeaidd

2 Mawrth: Rhoddodd Eluned Morgan AC (a chyn ASE) y brif araith ar Adael yr Undeb Ewropeaiddym Mhrifysgol Aberystwyth.

3.       Y diweddaraf o'r UE

Y Cyngor Ewropeaidd

20 Chwefror: Sylwadau gan yr Arlywydd Donald Tusk ar ôl ei gyfarfod gydag Is-lywydd yr Unol Daleithiau Mike Pence.

8 Mawrth: Uwchgynhadledd Cymdeithasol Teiran.

9-10 Mawrth: Y Cyngor Ewropeaidd:

Bydd y Cyngor Ewropeaidd yn y gwanwyn yn canolbwyntio ar swyddi, twf a chystadleurwydd. Bydd arweinwyr yn trafod y sefyllfa economaidd yn Ewrop, polisi masnach, cynnydd a wnaed ar ffeiliau yn gysylltiedig â strategaeth y farchnad sengl, yn ogystal â cham cyntaf y Semester Ewropeaidd 2017.

Ar fudo, bydd arweinwyr yn adolygu'r hyn sydd wedi ei wneud i weithredu  penderfyniadau a wnaed yn yr uwchgynhadledd anffurfiol yn Malta ar 3 Chwefror yn ymwneud â llwybr Canol y Canoldir.

Bydd penaethiaid gwladwriaethau neu lywodraethau hefyd yn asesu gweithredu ei gasgliadau ym mis Rhagfyr 2016 ar ddiogelwch allanol ac amddiffyn.

Bydd yr arweinwyr hefyd yn trafod y sefyllfa yn y Balcanau Gorllewinol.

Yn olaf, mae disgwyl i'r Cyngor Ewropeaidd ethol ei Lywydd ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Mehefin 2017 a 30 Tachwedd 2019.

Ddydd Gwener 10 Mawrth, bydd cyfarfod anffurfiol o'r 27 o benaethiaid gwladwriaethau neu lywodraethau yr UE i baratoi ar gyfer 60 mlynedd ers Cytuniadau Rhufain.

Y Comisiwn Ewropeaidd

10 Chwefror: Araith gan Is-Lywydd Dombrovskis yn Llundain, yn Bloomberg: Cynnal system ariannol ryngwladol gref.

13 Chwefror: Rhagolygon Economaidd ar gyfer Gaeaf 2017: Llywio drwy'r dyfroedd garw - economïau pob Aelod-wladwriaeth yr UE yn debygol o dyfu yn 2016, 2017 a 2018.

15 Chwefror: Y Comisiwn yn rhybuddio yr Almaen, Ffrainc, Sbaen, yr Eidal a'r Deyrnas Unedig ynghylch parhau i dorri rheolau llygredd aer.

20 Chwefror: Defnydd o ynni yn 2015  - y defnydd o ynni yn yr UE islaw ei lefel yn 1990  ... ond dibyniaeth yr UE ar fewnforion tanwydd ffosil ar gynnydd.

22 Chwefror: Pecyn Gaeaf Semester Ewropeaidd: Adolygu cynnydd Aelod-wladwriaethau tuag at flaenoriaethau economaidd a chymdeithasol.

27 Chwefror: Pa mor gystadleuol yw eich rhanbarth? Comisiwn yn cyhoeddi Mynegai Cystadleurwydd Rhanbarthol 2016.

1 Mawrth: Cyflwynodd Arlywydd Juncker, Arlywydd y Comisiwn ei Bapur Gwyn ar Adael yr Undeb Ewropeaidd yn dilyn yr UE.

Senedd Ewrop

15 Chwefror: CETA: ASEau yn cefnogi cytundeb masnach rhwng yr UE a Chanada.

Newyddion Ewropeaidd

14 Chwefror: Sovereign yn sicrhau £150 miliwn o fuddsoddiad Ewropeaidd ar gyfer cartrefi newydd.

22 Chwefror: £184 miliwn o gefnogaeth gan EIB ar gyfer Cronfa Fuddsoddi Pwerdy'r Gogledd.

Theresa May â'i her fasnach Gadael yr Undeb Ewropeaidd - yn dweud "Britain will, ironically, be highly dependent on the EU’s goodwill if it wants to pursue its own trade agenda." (Politico, 27 Chwefror)

4.       Datblygiadau yn y DU

Llywodraeth y DU

7 Chwefror: Gweinidogion y DU yn cynnal cyfarfod cyntaf fforwm newydd penodol i drafod goblygiadau Gadael yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer y Tiriogaethau Tramor.

9 Chwefror: Cynhadledd i'r wasg y Prif Weinidog gyda Phrif Weinidog Gentiloni o'r Eidal.

13 Chwefror: Gweinidog DExEU yn ymweld â chwmnïau o Gymru i drafod Gadael yr Undeb Ewropeaidd.

14 Chwefror: Walker: Bydd barn yr Alban yn chwarae rhan allweddol wrth ffurfio cynlluniau ymadael yr UE.

17 Chwefror: Rydym wedi pleidleisio i adael yr UE, ond nid Ewrop - erthygl gan Theresa May yn Le Figaro. Cyfarfu'r Prif Weinidog â Phrif Weinidog Ffrainc, Bernard Cazeneuve .

21 Chwefror: David Davis yn ymweld ag arweinwyr Baltig i drafod cysylltiadau yn y dyfodol. Tair erthygl gan David Davis mewn papurau newydd: Estonia and the UK will remain close partners after Brexit –Postimees; Building a strong new partnership with Lithuania –Delfi; The UK post-Brexit: a stronger and even closer ally to Latvia - Latvijas Avīze.

22 Chwefror: Ysgrifennydd Gadael yr Undeb Ewropeaidd: Bydd yn cymryd blynyddoedd i Brydeinwyr lenwi swyddi sgiliau isel mudwyr yr UE. (Sky News)

23 Chwefror: Siaradodd Theresa May â Phrif Weinidog Awstralia Malcolm Turnbull am sefydlogrwydd yn y Dwyrain Canol, Gadael yr Undeb Ewropeaidd a chytundeb masnach rydd.

Cyfarfod pedairochrog Gweinidogion Cyllid  - 14 Chwefror, Caeredin

Eglurder ar Adael yr Undeb Ewropeaidd - Gweinidogion Cyllid yn nodi eu siom yn dilyn y cyfarfod pedairochrog. Mae Llywodraeth y DU wedi methu â rhoi i'r gweinyddiaethau datganoledig yr wybodaeth neu'r eglurder angenrheidiol ar sut y bydd gadael yr UE yn effeithio ar eu heconomïau a'u cyllidebau, yn ôl gweinidogion cyllid yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon. (Llywodraeth Cymru)

Gweinidogion Cyllid yn nodi eu siom yn dilyn y cyfarfod pedairochrog. (Llywodraeth yr Alban)

Fforwm EC-UK  - 6 Mawrth

Bydd David Rees AC yn mynychu o Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Tŷ’r Cyffredin

6 Chwefror: Diwrnod cyntaf cyfnod Pwyllgor Bil yr Undeb Ewropeaidd (Hysbysiad Gadael). Parhaodd y cyfnod pwyllgor ar 7 Chwefror. Daeth y cyfnod pwyllgor i ben a phasiwyd y Trydydd Darlleniad ar 8 Chwefror.

8 Chwefror: Pleidleisiodd y Tŷ i gytuno'rCytundeb Masnach Economaidd Cynhwysfawr (CETA)  rhwng yr UE a Chanada.

9 Chwefror: Cwestiynau ar Adael yr UE: Diwydiannau Creadigol; Cytundeb Economaidd a Masnach Cynhwysfawr (CETA); masnachu wedi Gadael yr Undeb Ewropeaidd gyda Seland Newydd.

24 Ionawr: Dadl Neuadd San Steffan: Gadael yr UE: Safonau Lles Anifeiliaid mewn Ffermio.

7 Chwefror: Y Pwyllgor Materion Economaidd yn clywed tystiolaeth gan economegwyr blaenllaw ar gyfer ei ymchwiliad newydd ieffaith Gadael yr Undeb Ewropeaidd ar farchnad lafur y DU.

8 Chwefror: Cynhaliodd Pwyllgor yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig y sesiwn dystiolaeth gyntaf o'i ymchwiliad bwydo'r genedl: cyfyngiadau llafur.

8 Chwefror: Clywodd Bwyllgor Materion Gogledd Iwerddon dystiolaeth gan Lysgennad Iwerddon ar gyfer ei ymchwiliad Dyfodol y ffin ar y tir gyda Gweriniaeth Iwerddon. Ar 22 Chwefror holwyd cynrychiolwyr o ddiwydiant gweithgynhyrchu Gogledd Iwerddon.

8 a 9 Chwefror: Clywodd y Pwyllgor Gadael yr Undeb Ewropeaidd dystiolaeth gan dystion o'r Alban (gan gynnwys Michael Russell MSP) a thystion o Gernyw ar gyfer yr ymchwiliad ar amcanion negodi y DU ar gyfer gadael yr UE.

10 Chwefror: Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Rhaglen Gyflenwi'r Polisi Amaethyddol Cyffredin: Cyhoeddwyd adroddiad yr Adolygiad o Gynnydd, yn aros am ymateb y llywodraeth.

14 Chwefror: Edrychwch yn ofalus ar gyfreithiau digidol UE yn y dyfodol ar ôl Gadael yr Undeb Ewropeaidd  - Pwyllgor Craffu Ewropeaidd.

20 Chwefror: Y Pwyllgor Materion Cymreig yn dechrau ei ymchwiliad i oblygiadau canlyniad  refferendwm yr UE i Gymru gyda thystiolaeth am y broses o Adael yr Undeb Ewropeaidd a dychwelyd pwerau o'r UE i'r DU. Rhwng 27 a 28 Chwefror roedd y pwyllgor ym Mrwsel i gyfarfod ag Aelodau Senedd Ewrop a Swyddfa Llywodraeth Cymru ym Mrwsel. Mae'r Pwyllgor yn gobeithio ymchwilio i effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd ar ardaloedd sy'n elwa ar grantiau fel Cronfeydd Strwythurol a PAC. Bydd yr Aelodau hefyd yn cyfarfod â dirprwyaethau o Senedd Fflandrys a Rhanbarth Wallonian i drafod strwythur datganoli Gwlad Belg, gyda ffocws penodol ar gysylltiadau rhyng-lywodraethol a datganoli cyllidol. 

21 Chwefror: Sesiwn dystiolaeth ar gyfer yr ymchwiliad Dyfodol Rheoleiddio Cemegau ar ôl Refferendwm yr UE - Pwyllgor Archwilio Amgylcheddol.

21 Chwefror: Clywodd y Pwyllgor Iechyd gan arbenigwyr iechyd ar sut mae Gadael yr Undeb Ewropeaidd yn debygol o effeithio ar bobl sy'n ceisio gofal iechyd a recriwtio staff iechyd a gofal cymdeithasol.

21 Chwefror: Clywodd y Pwyllgor Gadael yr Undeb Ewropeaidd ynghylch polisi masnach fel rhan o amcanion negodi gadael yr UE.

22 Chwefror: Holodd y Pwyllgor Cyfiawnder y Gweinidog Gwladol ar gyfer Llysoedd a Chyfiawnder ar yr ymgysylltu rhwng y DU a Dibynwledydd y Goron ar o.

22 Chwefror: Clywodd y Pwyllgor Gadael yr Undeb Ewropeaidd gan Syr Ivan Rogers, cyn Gynrychiolydd Parhaol y Deyrnas Unedig i'r Undeb Ewropeaidd ar amcanion negodi'r DU ar gyfer gadael yr UE.

23 Chwefror: Y Pwyllgor Materion Economaidd yn clywed tystiolaeth gan arbenigwyr polisi, gan gynnwys Migration Watch a'r Resolution Foundation, ar gyfer ei ymchwiliad i effaith Gadael yr Undeb Ewropeaidd ar farchnad lafur y DU.

28 Chwefror: Pwyllgor Gadael yr Undeb Ewropeaidd: sesiwn dystiolaeth - plismona'r UE a rhannu gwybodaeth.

28 Chwefror: Pwyllgor Masnach Ryngwladol: Sesiwn dystiolaeth gyda Nissan, fel rhan o'r ymchwiliad i opsiynau masnach yn y DU y tu hwnt i 2019.

28 Chwefror: Cyhoeddodd y Pwyllgor Menywod a Chydraddoldeb ei adroddiad Sicrhau deddfwriaeth cydraddoldeb gref ar ôl gadael yr UE.

28 Chwefror: Comisiynydd yr UE dros Undeb Diogelwch(Syr Julian King) yn cael ei holi gan y Pwyllgor Materion Cartref.

28 Chwefror: Pwyllgor Craffu Ewropeaidd -  Goblygiadau trefniadau newydd o ran Denmarc-Europol ar gyfer y DU ar ôl Gadael yr Undeb Ewropeaidd yn cael eu cwestiynu.

28 Chwefror: Cynhaliodd y Pwyllgor Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol sesiwn dystiolaeth ar Adael yr UE: blaenoriaethau trafod ynni a'r hinsawdd.

28 Chwefror: Cynhaliodd y Pwyllgor Iechyd sesiwn dystiolaeth ar effaith Gadael yr Undeb Ewropeaidd ar y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol ac ar ddarparu gwasanaethau iechyd ar gyfer alltudwyr Prydeinig a dinasyddion yr UE yn y DU.

28 Chwefror: Clywodd y Pwyllgor Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon dystiolaeth ar Effaith Gadael yr Undeb Ewropeaidd ar y diwydiannau creadigol, twristiaeth a'r farchnad sengl ddigidol.

1 Mawrth: Clywodd y Pwyllgor Gweithdrefnau dystiolaeth gan gyfreithwyr Academaidd ar bwerau dirprwyedig a'r 'Bil Diddymu Mawr'.

7 Mawrth: Bydd Pwyllgor Gadael yr Undeb Ewropeaidd yn clywed gan Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol.

8 Mawrth: Bydd y Pwyllgor Craffu Ewropeaidd yn cynnal sesiwn dystiolaeth gyda George Eustice AS, y Gweinidog Gwladol dros Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd.

8 Mawrth: Bydd y Pwyllgor Gwaith a Phensiynau yn cynnal sesiwn dystiolaeth ar Adael yr Undeb Ewropeaidd a pholisi'r farchnad lafur.

Tŷ’r Arglwyddi

Mae Pwyllgor Undeb Ewropeaidd Tŷ'r Arglwyddi a'i chwe is-bwyllgor yn cynnal "cyfres gydgysylltiedig o ymholiadau ar y materion allweddol a fydd yn codi yn y trafodaethau sydd i ddod ar adael yr Undeb Ewropeaidd".

8 Chwefror: Darlleniad cyntaf y Bil Undeb Ewropeaidd (Hysbysiad Gadael).

9 Chwefror: Cwestiwn ynghylch Gadael yr Undeb Ewropeaidd: Polisi Hawliau Defnyddwyr; a dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Undeb Ewropeaidd - Gadael yr Undeb Ewropeaidd: Gwasanaethau Ariannol.

Y Bil Undeb Ewropeaidd (Hysbysiad Gadael): Ail Ddarlleniad ar 20 Chwefror, yn y borea'r prynhawn a gyda'r nos ar 21 Chwefror, ac wedi hynny cafodd y Bil ei drosglwyddo i bwyllgor o'r tŷ cyfan. 27 Chwefror: Diwrnod cyntaf y Cyfnod Pwyllgor. Ail ddiwrnod y Cyfnod Pwyllgor oedd 1 Mawrth. Disgwylir y Cyfnod Adrodd a'r Trydydd Darlleniad ar 7 Mawrth.

2 Mawrth: Dadl ar yr adroddiad gan Bwyllgor yr UE - Gadael yr Undeb Ewropeaidd: yr opsiynau ar gyfer masnach.

8 Chwefror: Cynhaliwyd pedwerydd cyfarfod y Grŵp Cyswllt Gadael yr Undeb Ewropeaidd Anffurfiol, a sefydlwyd gan Bwyllgor Cyswllt Tŷ'r Arglwyddi.

8 Chwefror: Clywodd y Pwyllgor Cyfansoddiad dystiolaeth gan Arweinydd Cysgodol Tŷ'r Arglwyddi, ac Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn Nhŷ'r Arglwyddi. Archwiliodd y Pwyllgor sut mae'r Senedd yn dirprwyo pwerau i'r Llywodraeth ac ystyried y defnydd o'r pwerau hyn yng nghyd-destun y Bil Diddymu Mawr.

8 Chwefror: Cynhaliodd Is-Bwyllgor Materion Allanol yr UE sesiwn dystiolaeth gyda'r gweinidogion yr  Arglwydd Bridges o Headley MBE a'r Arglwydd Price CVO fel rhan o'i ymchwiliad Gadael yr Undeb Ewropeaidd: masnachu mewn nwyddau rhwng y DU a'r UE yn y dyfodol.

8 Chwefror: Holodd Is-bwyllgor Ynni ac Amgylchedd yr UE ffermwyr a sefydliadau prosesu bwyd ar  oblygiadau Gadael yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer amaethyddiaeth.

14 Chwefror: Cyhoeddodd Is-bwyllgor Ynni ac Amgylchedd yr UE ei adroddiad sy'n amlygu'r  camau gweithredu allweddol a fydd yn angenrheidiol er mwyn sicrhau nad yw amddiffyniadau amgylcheddol yn cael eu colli o ganlyniad i Adael yr Undeb Ewropeaidd.

21 Chwefror: Clywodd Pwyllgor Dethol yr UE dystiolaeth gan academyddion ar gyfer yr ymchwiliad  Gadael yr Undeb Ewropeaidd: datganoli.

22 Chwefror: Holodd Is-bwyllgor Ynni ac Amgylchedd y DU arbenigwyr ar gadwraeth a'r economi wledig am y oblygiadau Gadael yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer nwyddau cyhoeddus ac amaethyddiaeth.

23 Chwefror: Pwyllgor Materion Economaidd: Rhoddodd Migration Watch dystiolaeth ar fewnfudo a swyddi ar ôl Gadael yr Undeb Ewropeaidd.

28 Chwefror: Pwyllgor Materion Economaidd: Sesiwn dystiolaeth ar Adael yr Undeb Ewropeaidd a'r Farchnad Lafur.

1 Mawrth: Is-bwyllgor Ynni ac Amgylchedd yr UE yn holi Prif Swyddog Milfeddygol y DU am  oblygiadau Gadael yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer iechyd anifeiliaid a lles anifeiliaid.

1 Mawrth: Clywodd Is-bwyllgor Materion Cartref yr UE dystiolaeth gan gyfreithwyr ac academyddion ar Gyfarwyddeb a Rheoliad diogelu data yr UE, Tarian Preifatrwydd yr UE-UDA a Chytundeb Ymbarél yr UE-UDA.

5.       Yr Alban

Senedd yr Alban

7 Chwefror: Dadl ar Adael yr Undeb Ewropeaidd (Erthygl 50).

9 Chwefror: Trafododd y Pwyllgor Diwylliant, Twristiaeth, Ewrop a Chysylltiadau Allanol Gadael yr Undeb Ewropeaidd gydag academyddion, gan gynnwys cytundebau masnach, cyllid a phwerau amaethyddiaeth a physgodfeydd, a fformiwla Barnett.

28 Chwefror: Dadl ar Effaith Economaidd Gadael yr Undeb Ewropeaidd, adroddiad y  Pwyllgor Economi, Swyddi a Gwaith Teg.

Llywodraeth yr Alban

7 Chwefror: Senedd yr Alban yn gwrthwynebu dechrau'r broses i adael yr UE;  Y Prif Weinidog yn diweddaru'r ffermwyr ar y dull tuag at Ewrop.

8 Chwefror: Mae'n rhaid i farn yr Alban ymddangos yn llythyr Erthygl 50.

12 Chwefror: Galw am safbwynt unedig [gweinyddiaeth ddatganoledig] ar faterion gwledig Gadael yr Undeb Ewropeaidd.

19 Chwefror: Cadarnhau cyllid gwledig yr Alban, ond mae €4.6 biliwn o gefnogaeth dan fygythiad gan Adael yr Undeb Ewropeaidd ‘caled’.

23 Chwefror: "Angen atebion brys" ar bwerau, ffermio, pysgodfeydd a'r amgylchedd;  annog Llywodraeth y DU i ddiogelu statws staff yr UE ym mhrifysgolion yr Alban;  Ansicrwydd i'r trydydd sector oherwydd Gadael yr Undeb Ewropeaidd.

6.       Gogledd Iwerddon

Cynulliad Gogledd Iwerddon

Cynhaliwyd yr etholiad i'r Cynulliad ar 2 Mawrth.

7.       Y cysylltiadau rhwng y DU ac Iwerddon

16 Chwefror: Ail Gyfarfod Llawn y Ddeialog Ddinesig Pob Ynys ar Adael yr Undeb Ewropeaidd

Dim bargen arbennig yn bosibl i atal dychwelyd rheolaethau Ffiniau (Irish Times, 20 Chwefror)

16 Chwefror dadl Dáil: Gadael yr Undeb Ewropeaidd a Dynodiad Arbennig ar gyfer y Gogledd.

22 Chwefror: Cyfarfu'r Taoiseach â Llywydd Juncker ym Mrwsel ar gyfer trafodaethau Gadael yr Undeb Ewropeaidd.

8.       Adroddiadau eraill a gyhoeddwyd

§    Blaenoriaethau Busnes Gadael yr Undeb Ewropeaidd (Siambrau Masnach Prydain)

§    Y syniadau diweddaraf ar Adael yr Undeb Ewropeaidd [Yr hyn y mae Melinau Trafod yn ei feddwl]